Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

16 Hydref 2017

SL(5)128 - Rheoliadau Addysg (Cyflenwi gwybodaeth am y Gweithlu Ysgolion) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol i ddarparu eitemau o ddata am bob aelod o weithlu'r ysgol i Lywodraeth Cymru pan ofynnir iddynt wneud hynny. Maent hefyd yn pennu pa eitemau o wybodaeth y dylid eu darparu, sut y byddant yn cael eu defnyddio a chyda phwy y gellid eu rhannu.

Deddf Wreiddiol: Deddf Addysg 2005

Fe’u gwnaed ar: 20 Medi 2017

Fe’u gosodwyd ar: 26 Medi 2017

Yn dod i rym ar: 31 Hydref 2017

SL(5)138 - Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirprwyo i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru y cyfrifoldeb am arfer rhai o swyddogaethau Gweinidogion Cymru fel awdurdod trwyddedu o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009

Deddf Wreiddiol: Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009

Fe’i gwnaed ar: 27 Medi 2017

Fe’i gosodwyd ar: 4 Hydref 2017

Yn dod i rym ar: 20 Tachwedd 2017

 

 

SL(5)140 - Rheoliadau Addysg (Offer Peryglus mewn Ysgolion) (Dileu'r Cyfyngiadau ar Ddefnydd) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989  ("Rheoliadau 1989") (rheoliad 2). Mae hyn yn dileu'r gofyniad yn Rheoliadau 1989—

(a) i ysgolion a gynhelir, ysgolion nas cynhelir a sefydliadau addysg bellach gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn defnyddio sylweddau ymbelydrol penodol a chyfarpar penodol at ddibenion addysgu; a

(b) i hosteli i ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig gael eu harolygu. Nid oes hosteli o'r fath yng Nghymru mwyach ac felly mae'r gofyniad i gynnal arolygiadau yn ddiangen.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu'r gofyniad yn Rheoli adau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994 i ysgolion annibynnol a gymeradwywyd o dan adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig cyn defnyddio sylweddau a chyfarpar o'r fath at ddibenion addysgu (rheoliad 3).

Deddfau gwreiddiol: Deddf Addysg 1996; Deddf Addysg 2002

Fe’u gwnaed ar: 3 Hydref 2017

Fe’u gosodwyd ar: 5 Hydref 2017

Yn dod i rym ar: 1 Tachwedd 2017